Ymchwiliad trwyadl i honiadau Huw Edwards yn 'allweddol'

Mae'n rhaid i'r BBC ateb cwestiynau sydd wedi eu codi yn sgil honiadau yn erbyn y cyflwynydd Huw Edwards, er mwyn tawelu meddyliau.

Dyna ddywedodd Karl Davies, cyn-bennaeth llywodraethu ac atebolrwydd y BBC yng Nghymru, ar Dros Frecwast.

Dywedodd bod angen proses "drylwyr, teg ac agored" wrth ymchwilio i'r honiadau, ac "os nad ydyn nhw'n gallu gwneud hynny, fydd 'na ddim just amheuon ym meddyliau pobl, bydd pobl yn feirniadol o'r BBC".