'Mae angen dysgu'r cyhoedd beth yw coedwigaeth'

Mae arweinwyr o fewn y diwydiant coedwigaeth yn poeni na fydd digon o weithwyr ifanc ar gael i weithredu targedau plannu coed - fel rhan o'r ymateb i heriau newid hinsawdd.

Mae'r gweithlu yn heneiddio - ac erbyn 2030 disgwylir y bydd tua 20% o'r coedwigwyr presennol wedi ymddeol - a channoedd o swyddi'n wag ar draws y DU.

Mae pobl ifanc cymwys fwy neu lai yn sicr o gael swydd ar hyn o bryd ac mae rhai myfyrwyr hyd yn oed wedi dewis peidio dychwelyd i orffen eu cyrsiau prifysgol ar ôl derbyn swydd wedi cyfnod o brofiad gwaith.

Dywed llywodraethau Cymru a'r DU eu bod yn buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant, ond mae yna alw am godi proffil y sector a mynd i'r afael ag ambell gamsyniad am ba fath o bobl all wneud y gwaith.

I'r perwyl hynny mae myfyrwyr coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi dechrau rhannu eu profiadau eu hunain ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy ymweld ag ysgolion.

Dyw'r prinder gweithwyr ifanc ddim yn synnu Dafydd Jones, sy'n 20 oed ac o Dywyn, Meirionnydd.

Ag yntau ar fin dechrau ei flwyddyn olaf yn astudio coedwigaeth ym Mangor, mae'n dweud mai "'mond wyth o bobol" sydd ar yr un cwrs, a bod neb arall o'r un oedran ymhlith staff y cwmni sy'n ei gyflogi dros yr haf.

Mae Dafydd, sydd o gefndir amaethyddol a "wastad efo llif o'i flaen" ers gweld "Dad, Taid, pawb yn torri coed tân" wedi sefydlu ei gwmni torri coed ei hun.

Dywed y byddai wedi gwerthfawrogi mwy o wybodaeth am y sector wrth fynd trwy'r system addysg.