CPD Wrecsam: 'Does dim esgus i hedfan' yn lleol

"Does dim esgus" i bobl a busnesau deithio pellteroedd byr ar awyren, yn ôl yr ymgynghorydd amgylcheddol Mari Arthur.

Roedd yn ymateb i waith ymchwil gan adran chwaraeon y BBC wnaeth ddatgelu fod Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi gwneud cyfanswm o 16 hediad i gemau o fewn y DU y tymor diwethaf.

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Mari Arthur: "Mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd i ddewis ffyrdd gwell o drafaelu ac mae cyfrifoldeb gan fusnesau i wneud yr un peth."

Mae CPD Wrecsam wedi cael cais am ymateb.