Ceisiadau 2024 Ysgol Feddygol y gogledd ar agor

Mae panel arbenigol o'r Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi cadarnhau fod Ysgol Feddygol Gogledd Cymru'n barod i recriwtio'r myfyrwyr cyntaf a fydd yn gallu dilyn y cwrs cyfan yn y gogledd.

Dan y trefniadau presennol ym Mhrifysgol Bangor mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, mae graddedigion yn treulio eu blwyddyn gyntaf yn y brifddinas cyn trosglwyddo i'r gogledd.

Ond o Fedi 2024 bydd modd astudio o'r cychwyn ym Mangor, a hynny'n syth o'r ysgol.

Bydd Llywodraeth Cymru'n ariannu hyfforddiant 80 o fyfyrwyr yn y lle cyntaf, gyda'r bwriad o gynyddu'r nifer i hyd at 140 erbyn 2029.

Dywed Prifysgol Bangor mai'r ysgol feddygol yw "un o'r datblygiadau mwyaf arwyddocaol i'r sefydliad hwn, ac i iechyd a lles gogledd Cymru ers sefydlu'r brifysgol bron i 140 mlynedd yn ôl".

Ac wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, fe ategodd yr Uwch Ddarlithydd Clinigol Rhan-Amser Addysg Feddygol, Dr Nia Jones, ei fod yn gam arwyddocaol.