Rhys Richards: Cefnogaeth staff 'anhygoel' wedi strôc

Mae'r actor Rhys Richards yn dweud ei fod yn parhau i ddioddef sgil effeithiau strôc a ddioddefodd bron i dri mis yn ôl.

Ag yntau'n parhau i gael trafferthion gydag ochr dde ei gorff, mae'n derbyn therapi yn Ysbyty Eryri, Caernarfon.

Mae'n ddiolchgar am waith y gwasanaeth iechyd am eu rhan yn ei wellhad, ac yn teimlo nad ydy staff y GIG wastad yn derbyn y clod maen nhw'n eu haeddu.

"Yn sicr fyswn i ddim yma rŵan gyda symudiad fy nghoesau'n ôl, a'r fraich yn gwella hebddyn nhw," meddai.

"Maen nhw wedi bod yn anhygoel gyda'u cefnogaeth.

"Mae'n rhaid i mi ddweud, dwi ddim yn meddwl bod staff yn cael eu gwerthfawrogi fel dylan nhw.

"'Dan ni'n clywed yn gyson problemau am gyflogau ac felly, dwi methu deall pam.

"O'r glanhawr i'r person uchaf yn y swydd, maen nhw'n grêt ac yn haeddu cael eu gwerthfawrogi."