'Rhaid stopio'r cod post loteri gofal llygaid'

Mae meddyg llygaid blaenllaw'n rhybuddio bod Cymru'n wynebu "trychineb" lle gallai degau o filoedd o bobl golli eu golwg yn ddiangen.

Yn ôl Gwyn Williams - offthalmolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Singleton Abertawe a Llywydd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yng Nghymru - mae angen gwelliannau brys i'r modd y mae gofal llygaid arbenigol yn cael ei ddarparu.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod dros 75,000 o bobl, sydd â'r risg mwyaf o ddallineb, yn aros yn rhy hir am driniaeth - ffigwr sydd wedi bron dyblu mewn pedair blynedd.

Canoli gwasanaethau ac arbenigedd mewn canolfannau rhanbarthol sydd ei angen, mae Gwyn Williams yn dadlau, os am sicrhau cysondeb ar draws Cymru.