Clwb Rygbi Caernarfon: 'Dyma gychwyn y dathliadau'

Mae 'na ddathlu yng Nghaernarfon eleni wrth i glwb rygbi'r dref droi'n 50 oed.

Ymysg y digwyddiadau i nodi'r garreg filltir, bydd y clwb yn cynnal gêm gyfeillgar rhwng Rygbi Gogledd Cymru a Chymry Llundain brynhawn Sadwrn.

Mae mwy o ddathlu ar y ffordd i'r clwb hefyd, wrth i dîm y merched droi'n 25 oed yn ddiweddarach fis Awst.

Dywedodd un o gyfarwyddwyr Clwb Rygbi Caernarfon, Ieuan Jones, ar Dros Frecwast mai dyma "gychwyn y dathliadau i ni am y 12 mis mewn ffordd".

Bydd dydd Sadwrn yn achlysur arbennig hefyd i un o gyn-sêr tîm Caernarfon, Cai Griffiths.

Yn wreiddiol o Gaernarfon, roedd yn dipyn o arwr i dîm y dref cyn iddo fynd i chwarae i'r Gweilch, ac mae bellach yn gyfarwyddwr rygbi Cymry Llundain.