Beth yw ystyr Cymunedoli?
Ar ail ddiwrnod yr Eisteddfod Genedlaethol, fe aeth Cymru Fyw i gyfarfod Selwyn a Gwenlli o Gwmni Cymunedol Bro Ffestiniog i glywed am gynllun 'Cymunedoli'.
Mae'r cwmni yn ceisio annog cydweitho rhwng mentrau cymunedol yn yr ardal, gan gynnwys elusennau, cyrff gwirfoddol ac asiantaethau cyhoeddus a phreifat sy'n gweithredu yno.
Mae'r criw yn gobeithio bydd 'Cymunedoli' yn galluogi sefydliadau lleol Bro Ffestiniog i gydweithio er budd yr ardal, a fod cymunedau lleol yn elwa o'u gwaith.