11,000 ar y Maes i weld Bwncath a'u gwesteion, Eden

Oeddech chi ar faes yr Eisteddfod ym Moduan nos Sul ar gyfer perfformiad Bwncath?

Os felly fe fyddwch chi'n gwybod eisoes bod yna dorf sylweddol yno i weld y grŵp poblogaidd.

Dywedodd, Sioned Edwards o dîm rheoli'r Eisteddfod ddydd Llun ei bod yn amcangyfrif bod dros 11,000 o bobl ar y maes wrth iddyn nhw berfformio.

Ac roedd yna fonws annisgwyl i'r dorf - diolch i ymddangosiad annisgwyl gan ferched Eden.