Seiclo o Gymru i Bilbao 'lot anoddach na'r disgwyl'
Mae dyn o Gaerdydd wedi cwblhau taith seiclo dros 1,000km o Gymru i Bilbao er cof am ei ffrind.
Bu farw ffrind Aled Jones, Justin, yn 2022 ac roedd yn byw yn Bilbao.
Fe benderfynodd Aled seiclo i'r ddinas yng Ngwlad y Basg, a chodi arian i elusen tra'n gwneud hynny.
Yn siarad ar Dros Frecwast ddydd Llun ar ôl cwblhau'r her, dywedodd Aled fod y daith wedi bod "lot anoddach na'r disgwyl".
"O'dd e ddim wir yn bwysig cwblhau e rili. Y peth pwysig oedd cofio fy ffrind a chodi arian," meddai.