Geifr gwyllt yn creu helynt mewn pentref yn Eryri
Mae geifr gwyllt yn difrodi gerddi a chartrefi, yn ôl pobl sy'n byw ger coedwig hynafol ar gyrion Eryri.
Mae'r trigolion wedi galw am reoli nifer yr anifeiliaid sy'n pori ym Mharc Gwledig Padarn ger Llanberis.
Yr amcangyfrif ydy bod praidd o dros 50 o eifr yn crwydro yno, er gwaethaf ymdrech ddadleuol yn 2006 i ddifa llawer o'r creaduriaid.
Mae swyddogion amgylcheddol a swyddogion cyngor yn dweud eu bod yn cadw golwg ar y sefyllfa ac yn edrych am atebion "hir dymor a chynaliadwy".
"Mae o wedi bod yn broblem erioed, ond dwi'n gweld bod o'n waeth," medd Dr Stel Farrar sy'n byw gerllaw.
Ond yn ôl Dr Farrar, sy'n fiolegydd planhigion, y broblem fwyaf ydy'r effaith ar y goedwig.
Mae'r goedwig yn Dinorwig wedi bod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ers y 1960au, yn rhannol oherwydd y math o dderwen arbennig sy'n tyfu - derwen ddigoes.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n dweud eu bod wedi gwneud asesiad cyflym o'r goedwig ac mai "effaith bychan mae'r geifr yn ei gael ar y nodweddion gwyddonol arbennig".