Meleri Wyn James: Ennill yn brofiad 'gwefreiddiol'
Ymweliad â maes yr Eisteddfod y llynedd wnaeth ysbrydoli enillydd y Fedal Ryddiaith i ddechrau ysgrifennu'r gwaith buddugol.
Ar ôl y seremoni ar y maes ym Moduan, dywedodd Meleri Wyn James mai gŵyl y llynedd a'i gwnaeth yn "benderfynol" o ysgrifennu.
Disgrifiodd y seremoni fel profiad "gwefreiddiol", yn enwedig gan fod ei nith yn un o'r dawnswyr ar y llwyfan.