Rheol iaith Maes B: Beth yw barn y bobl ifanc?
Mae rheol iaith yr Eisteddfod wedi bod yn bwnc trafod yn ddiweddar - gyda rhai cerddorion wedi awgrymu y gallai Maes B fod yn lle ar gyfer arbrofi gyda llacio'r rheol honno, i adlewyrchu'r ystod o gerddoriaeth yng Nghymru heddiw.
Mae'r Eisteddfod wedi gwahodd awgrymiadau cyffredinol gan bobl yr wythnos hon am beth hoffen nhw weld yn yr ŵyl - ond wedi dweud na fydd trafodaeth ar y rheol iaith yn digwydd yr wythnos hon.
Mae Gwenllian Anthony o fand Adwaith yn un o'r rheiny sydd wedi dweud bod angen edrych ar bethau eto, er mwyn ceisio gwneud i'r Brifwyl deimlo mor "groesawgar" â phosib.
"Pan o'n i'n dechre, indy rock boy bands oedd e i gyd, ond nawr mae artistiaid electroneg, pync, artistiaid benywaidd, cwiar," meddai.
"Dwi'n meddwl bod pobl yn teimlo'n mwy grounded yn eu Cymreictod nhw, a sgwennu yn y Gymraeg heb fod yn embarrassed amdano fe.
"Fi'n meddwl bydde newid rheolau Maes B yn rhywbeth hawdd all yr Eisteddfod 'neud, ond fi'n gwybod bod rhai pobl ddim yn cytuno gyda hwnna - chi methu plesio pawb."
Ond mae eraill wedi dweud y dylai'r rheol iaith gael ei chadw ar gyfer pob rhan o'r Eisteddfod - felly beth oedd cynulleidfa Maes B eu hunain yn ei feddwl ar y maes ym Moduan?