Ydy deallusrwydd artiffisial yn fygythiad i feirdd?
Wrth i weithgareddau'r Eisteddfod - a'r gorau o'r diwylliant Cymraeg - dynnu tua'r terfyn, tybed a fydd her i'r beirdd o gyfeiriad hollol newydd yn y dyfodol?
Mae modd i gyfrifiaduron farddoni erbyn hyn - gwyrth deallusrwydd artiffisial, neu AI.
A fydd hynny'n drech na'r awen ddynol ryw ddydd?
Dr Neil Mac Parthalain o adran gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth fu'n egluro'r broses i Ellis Roberts ar raglen Newyddion S4C, cyn i un o feirdd amlycaf Cymru, Guto Dafydd, feirniadu cerdd a grëwyd gan gyfrifiadur.