A fydd cyfyngiadau 20mya yn effeithiol?
O 17 Medi, 20mya fydd y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru, er y bydd cynghorau'n gallu gosod eithriadau.
Bu Dafydd Trystan, cadeirydd Bwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, ac Aled Thomas, cynghorydd Ceidwadol yn Sir Benfro yn trafod pa mor effeithiol fydd y cyfyngiadau newydd ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.
Dywedodd Dafydd Trystan fod nifer fawr o bobl yn cael eu lladd ar strydoedd dinesig a bydd y cyfyngiadau is yn ei wneud "yn fwy diogel i bawb"
Ychwanegodd bod yna "dystiolaeth gref yn rhyngwladol o'r buddion."
Ond mae Aled Thomas yn dadlau nad yw'r cynlluniau yn addas ar gyfer ardaloedd gwledig fel Sir Benfro ac yn dweud nad oes gymaint o bobl yn cerdded ac mae'r gymuned yn ddibynnol ar geir er mwyn teithio.
"Mae'n gosb arall i yrwyr Cymru," meddai.