13 A* TGAU: 'Do'n i methu a chysgu neithiwr yn poeni'

Mae graddau TGAU yng Nghymru wedi gostwng o'u cymharu â'r llynedd wrth i'r canlyniadau symud yn agosach at lefelau cyn y pandemig.

Fel yn achos y wythnos yn ôl, roedd y graddau gorau yn dal yn uwch nag yn 2019 - y tro diwethaf cyn Covid i ddisgyblion orfod sefyll arholiadau.

Roedd 21.7% o'r graddau TGAU yn A neu'n A*, a 64.5% yn A* i C.

Un a gafodd ei chanlyniadau ddydd Iau oedd Gwawr o Ysgol Gyfun Llangefni, a gafodd 13 A*.