Teithwyr yn gorfod 'aros am sbel eto' cyn hedfan
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi cadarnhau bod problem dechnegol gyda systemau rheoli gofod awyr y DU yn amharu ar deithiau i ac o'r safle yn ne Cymru.
Dywed gwasanaeth rheoli awyrle'r DU, NATS eu bod wedi "gosod cyfyngiadau llif traffig i gynnal diogelwch".
Mae sawl cwmni awyren wedi rhybuddio bod disgwyl oedi yn achos rhai hediadau.
Mae newyddiadurwr BBC Cymru, Nest Williams, - sy'n disgwyl i ddal awyren o Palma yn Sbaen i Fanceinion - yn un o'r degau o filoedd sy'n wynebu oedi oherwydd y trafferthion.
"Roeddan ni fod i adael hanner awr yn ôl, a tan 'chydig funudau yn ôl mi oeddan nhw'n dweud ein bod ni ar amser," meddai o'r maes awyr.
"Mae hi'n eitha' amlwg bod hynny ddim yn wir.
"Maen nhw newydd roi gwybod i ni bod 'na broblem efo'r system gyfrifiadurol i reoli traffig awyr 'nôl ym Mhrydain, felly maen nhw wedi dweud wrthan ni am aros am sbel eto.
"Ond does 'na ddim rhagor o wybodaeth o gwbl."