'Mae'n galed cael pobl i siarad am iechyd meddwl'
"Dyw meddylfryd dynion ddim wedi newid cymaint dros y canrifoedd - mae'n anodd cael pobl i siarad."
Iechyd meddwl dynion oedd un o bynciau golygydd gwadd rhaglen Dros Frecwast ddydd Mawrth, sef yr actor Rhys ap William.
Mae ei gymeriad yn y gyfres Pobol y Cwm, Cai Rossiter, mewn lle tywyll iawn ar hyn o bryd, gan hunan-niweidio fel ffordd o ddygymod â phroblemau yn ei fywyd personol.
Fe fydd ei stori'n datblygu dros yr wythnosau nesaf, gan gyd-fynd â Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar 10 Medi.
Wrth baratoi ar gyfer portreadu ei wewyr meddyliol fe gydweithiodd gyda'r Samariaid - a'r therapydd iechyd meddwl Osian Leader, a aeth i'r maes wedi i'w iechyd meddwl ei hun dorri.
Mae'r actor hefyd wedi cael profiad o iselder, ac yn llwyr ymwybodol oherwydd hynny pa mor allweddol yw trafod a deall y cyflwr er mwyn dysgu sut i fyw gydag e.