Helynt teithio: 'Wnes i ffeindio bws oedd i fod yn 19 awr'

Mae teithwyr o Gymru wedi eu rhybuddio y gallan nhw fod yn disgwyl hyd at wythnos arall cyn cael dychwelyd i'r DU, yn dilyn nam gyda system rheoli gofod awyr y DU ddechrau'r wythnos.

Mae'r trafferthion mewn meysydd awyr yn parhau am drydydd diwrnod bellach, wedi i'r broblem ddod i'r amlwg ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Er i'r broblem gael ei datrys o fewn ychydig oriau, mae disgwyl i'r aflonyddwch barhau am sawl diwrnod arall.

Un sydd wedi llwyddo i gyrraedd adref, ond nid heb drafferthion, ydy Guto Harries - o Sir Benfro yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Llundain.

Roedd i fod i hedfan o Genefa i Lundain - taith o lai nag awr - am 16:50 ddydd Llun, ond oherwydd y trafferthion fe gafodd antur yn cymryd bws i Baris, ac yna trên yn ôl i Lundain.