Cyfraniad 'arbennig' Gŵyl Cymru Gogledd America
Dros yr wythnos ddiwethaf mae Gŵyl Cymru Gogledd America wedi cael ei chynnal - achlysur sy'n dathlu diwylliant Cymreig yn y wlad ers dros 90 o flynyddoedd.
Fel yr Eisteddfodau cenedlaethol yng Nghymru, mae'r ŵyl yn un deithiol, a Lincoln, prifddinas talaith Nebraska, oedd ei chartref eleni.
Un o uchafbwyntiau'r ŵyl oedd cymanfa ganu a noson lawen ddydd Sul
Y cyfansoddwr a chanwr Robat Arwyn oedd cyfarwyddwr y gymanfa ganu eleni.
Dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig yn Ohio, Dan Rowbotham, bod gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith arbennig "bob dydd" i gynnal hanes a threftadaeth Cymru yno.