Concrit: Ysgolion Cymru 'yn ddiogel' medd gweinidog

Mae ysgolion Cymru "yn ddiogel" yn ôl y gweinidog addysg, Jeremy Miles, er i fath o goncrit diffygiol gael ei ganfod mewn dwy ysgol ar Ynys Môn.

Dywedodd y bydd Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy ac Ysgol Uwchradd Caergybi yn cau i ddisgyblion dros dro fel y gellir cynnal adolygiad diogelwch pellach o'r deunydd - a elwir yn RAAC.

Mae'r math yma o goncrit yn gallu dymchwel yn ddirybudd.

"Cam yw hwn sydd yn gam gofalus, os hoffwch chi," ychwanegodd Mr Miles wrth ymateb i'r ffaith fod y deunydd wedi ei ganfod yn yr ysgolion.

Dywedodd ei fod yn gobeithio cael y darlun llawn o ysgolion ledled Cymru o fewn pythefnos.