Gohirio cynllun fferm wynt arnofiol arloesol yn siom

Mae datblygiad ynni adnewyddadwy arloesol yn y Môr Celtaidd wedi cael ei ohirio am o leiaf blwyddyn.

Mae cynllun fferm wynt arnofiol Erebus oddi ar arfordir Sir Benfro yn cael ei ystyried yn ddyfodol i economi Cymru, yn ogystal â helpu Cymru a'r Deyrnas Unedig i gyrraedd targedau lleihau carbon.

Ond mae'r cwmni Blue Gem Wind wedi penderfynu nad oedd Llywodraeth y DU yn cynnig digon o arian am yr ynni a fyddai'n cael ei gynhyrchu i gyfiawnhau ceisio am gytundeb yn y rownd ddosrannu ddiweddaraf.

Roedd rhai o fewn y diwydiant wedi rhybuddio'r llywodraeth nad oedd y pris oedd yn cael ei gynnig yn ddigon da.

Dywedodd Manon Kynaston, dirprwy gyfarwyddwr y corff RenewableUK Cymru, eu bod eisiau gweld "cefnogaeth ar gyfer twf diwydiannol yma yng Nghymru a hefyd ar draws y Deyrnas Unedig".