Wynne Evans 'ar ben y byd' ar ôl ennill MasterChef

Mae'r canwr opera a chyflwynydd radio Wynne Evans wedi ennill rhaglen Celebrity MasterChef 2023.

Roedd Wynne, 51, yn cystadlu yn erbyn yr actores Amy Walsh a seren Love Island Luca Bish yn y rownd derfynol.

"Rydw i mor falch i fod wedi ennill ac ar ben y byd i fod yr enillydd Cymraeg cyntaf o Celebrity Masterchef," dywedodd.

"Dwi wedi mwynhau'r peth o'r dechrau i'r gorffen."