Y dyn o Utah sy'n dysgu iaith ei gyndeidiau
Pan gyflwynodd John Shaw ei hun i'w diwtor Cymraeg, doedd Dai Owen ddim yn gallu credu'r peth.
"Rwy'n cofio'r wers gynta pan oedd y dosbarth yn cyflwyno'i hun am y tro cynta, a dywedodd e 'John Shaw dwi, dwi'n dod o Utah' a wedes i 'pardwn?'... 'dwi'n byw yn Utah!'"
Mae John Shaw yn un o'r cannoedd o bobl y tu allan i Gymru sy'n dysgu Cymraeg ar gyrsiau'r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn rhithiol.
Fe wnaeth ei hen hen daid a nain ymfudo o Gymru i America ym 1848 - a nawr, mae e wedi dod yn ôl i gartref ei gyndeidiau am y tro cyntaf.
Cymru Fyw fu'n clywed mwy am ei hanes.