Menywod Cymru yn barod am Gynghrair y Cenhedloedd
Nos Wener bydd tîm pêl-droed menywod Cymru yn herio Gwlad yr Iâ yn eu gêm gyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Dyma flwyddyn gyntaf yr ornest ac fe fydd llwyddiant Cymru yn y gemau yn bwysig ar gyfer y gemau rhagbrofol ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop 2025 a Chwpan y Byd 2027.
Wedi wynebu Gwlad yr Iâ bydd Cymru yn herio Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos nesaf.
Dywedodd Carrie Jones, un o chwaraewyr Cymru: "Dy ni'n paratoi at be bynnag ma' nhw'n taflu aton ni, ond mi fydd o'n gêm agos.
"Wrth gwrs 'dan ni eisio ennill y ddwy gêm, mi fydden ni byth yn mynd mewn i gêm yn disgwyl colli."
Hefyd yng ngrŵp Cymru mae'r Almaen, a ddaeth yn ail yn Ewros 2022.
Dywedodd hyfforddwr Cymru, Gemma Grainger: "Mae'n gystadleuol a dyna rydyn ni ei eisiau fel tîm."
Wrth herio'r Almaen yn hwyrach yn y flwyddyn fe fydd y tîm yn chwarae yn Stadiwm Swansea.com - y tro cyntaf iddyn nhw chwarae yno ers 2018.
"Gobeithio un diwrnod gallwn ni fynd fyny i Wrecsam am gêm unwaith mae'r stadiwm yn barod i'n cael ni," ychwanegodd Grainger.