Prisiau petrol 'allan o bob rheolaeth'

Mae'r RAC wedi cyhuddo adwerthwyr tanwydd o wneud mwy o elw ar draul gyrwyr trwy gynyddu prisiau ymhellach.

Dywedodd Sion Jones, rheolwr gorsaf betrol Valley Services yn Llandysul: "Ni'n gweld yn eitha' cloi pan ma'r pris yn codi da ni, ma'r cwsmeriaid, yn enwedig os ma' nhw'n trafeilu, ewn nhw i chwilio rhywle 'chepach' i gael tanwydd.

Un sy'n teimlo'r esgid yn gwasgu ydy Annie Davies a ddywedodd ei bod methu mynd â'i phlant allan am ddiwrnod ar adegau oherwydd y cynnydd yng nghostau tanwydd.

"O'n i di gyrru heibio ddoe a dwi'n eitha' gutted nawr 'nes i ddim prynu, achos mae wedi mynd lan bedair ceiniog ers ddoe," meddai.

Dywedodd cwsmer arall, Owen Lewis: "Ma' pethe wedi mynd completely out of control, ma' nhw [prisiau] lan bob tro chi'n mynd i nôl rhywbeth.

"Beth yw'r rheswm am hwn nawr sain gwbod.. ond dwi'n credu bod nhw'n rhoi pethau lan jyst am neud e nawr."