Angharad James: Her gyffrous yn erbyn Gwlad yr Iâ
Mae Merched Cymru'n wynebu "her gyffrous" wrth ddechrau eu hymgyrch yng Nghyghrair y Cenhedloedd nos Wener.
Gwlad yr Iâ yw'r gwrthwynebwyr cyntaf, mewn grŵp cryf sy'n cynnwys Denmarc a'r Almaen.
Dywedodd y chwaraewr canol cae Angharad James bod y garfan yn edrych ymlaen at brofi ei hunain yn erbyn timoedd sy'n uwch yn netholion y byd.