'Bydd hi'n gêm galed yn erbyn Awstralia'
Bydd hi'n gêm anodd i Gymru ond mae'r tîm yn barod i herio Awstralia, yn ôl y capten Jac Morgan.
Fe fydd Cymru'n chwarae eu trydedd gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Lyon nos Sul.
Mae'r garfan yn gwybod y byddai buddugoliaeth yn erbyn Awstralia yn sicrhau lle yn rownd yr wyth olaf.
"Ni mo'yn mynd mas a chael y fuddugoliaeth. Ni'n gwybod be' ni'n gorfod 'neud."