'Gofidio'n ofnadwy' am golli'r Bwcabws
Mae un o ddefnyddwyr cyson y Bwcabws yn y gorllewin wedi bod yn 'gofidio'n ofnadwy' am y newyddion bod y gwasanaeth yn dod i ben wedi 14 o flynyddoedd.
"Wi ddim yn gwybod shwt fyddai'n mynd i siopa i gael bwyd, na shwt i fynd at y doctor. Dwi'n dibynnu ar y gwasanaeth."
Mae Teifwen Evans wedi bod yn defnyddio'r Bwcabws ers dechrau'r cynllun, a hithau'n byw bron i bedair milltir o dref Castellnewydd Emlyn.
"Wi'n gweud 'tho nhw pryd dwi'n mynd at y doctor, a mae nhw'n trefnu bys wedyn, i bigo fi lan, gytre fan hyn, ac i ddod nôl. Rwy'n dibynnu'n llwyr ar y Bwcabus."
Mae pobl yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi gallu trefnu amser cyfleus i'r Bwcabws eu casglu a'u cludo i ganolfannau lleol neu wasanaethau bws canolog ers 2009.
Fe gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf bod disgwyl iddo ddod i ben ar 31 Hydref 2023.
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod diffyg cyllid gan lywodraeth y DU ers Brexit yn golygu na allai barhau i ariannu'r gwasanaeth, a'u bod yn ymchwilio i opsiynau eraill.