O'r archif: Meic Povey a hanes UFO's Sir Benfro

Ym 1977 bu cyfres o ddigwyddiadau rhyfedd yn ardal Aberllydan, Sir Benfro, gyda phobl leol yn dweud iddynt weld bodau arallfydol ac UFOs.

Wrth chwarae tu allan, fe welodd grŵp o ryw 15 o blant o Ysgol Gynradd Aberllydan yr hyn oedden nhw'n honni oedd yn llong ofod mewn cae ger yr ysgol.

Tua'r un adeg fe welodd y teulu Coombs oleuadau, llong ofod a bodau arallfydol ar ei fferm gerllaw.

Fe ddisgrifiwyd yr ardal fel "Triongl Dyfed" gan arbenigwyr yn y maes.

Fe fu'r diweddar Meic Povey ar drywydd y stori, gan dywys ei wylwyr o amgylch llefydd â chysylltiadau arallfydol.

Bydd y digwyddiadau nawr yn cael eu cynnwys fel rhan o gyfres Netflix newydd o'r enw Encounters.

"Mae'r stori Gymreig yn stori ryfeddol," dywedodd Yon Motskin, cyfarwyddwr y gyfres newydd.

"Fe welodd cannoedd o bobl y pethau yma."