Hywel Gwynfryn: 'Siarad fy iaith fy hun, yn fy ngwlad fy hun'

Bydd Hywel Gwynfryn yn derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig BAFTA Cymru am ei waith ym myd darlledu Cymraeg.

Mae'r darlledwr adnabyddus o Ynys Môn wedi bod yn enw cyfarwydd ar radio a theledu yng Nghymru ers bron i 60 mlynedd.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru, dywedodd Mr Gwynfryn ei fod yn "braf cael cydnabyddiaeth," ond ei fod hefyd yn derbyn y wobr ar ran yr holl unedau cynhyrchu sydd wedi'i gefnogi gydol ei yrfa.

Mewn datganiad disgrifiodd BAFTA Cymru Mr Gwynfryn fel "darlledwr, saer geiriau ac awdur dylanwadol".

"Gellir gweld, clywed, a theimlo ei ôl ym mhob agwedd ar ddiwylliant poblogaidd Cymru."