Cap Ynni: 'Mae'n bwysig ystyried eich sefyllfa'
Ddydd Sul fe fydd y cap ynni newydd yn dod i rym - a allai olygu biliau trydan a nwy is.
O 1 Hydref bydd y cap ar brisiau ynni yn gostwng o £2,074 i £1,923.
Roedd y ffigwr gyn uched â £2,500 y gaeaf diwethaf, ond mae'n parhau i fod 50% yn uwch na'r un cyfnod yn 2021.
Y llynedd derbyniodd pob cartref £400 o gymorth dros chwe mis, gan ddod â'r gost fisol gyfartalog i lawr i £141.
Ond nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cymorth cyfatebol ar gyfer eleni, sy'n golygu mai'r gost gyfartalog misol o Hydref ymlaen fydd £160.
Yn ôl Fflur Lawton o gwmni Smart Energy, gyda rhai cwmnïau yn dechrau cynnig prisiau sefydlog unwaith eto, mae angen i bobl ystyried eu sefyllfa bersonol.