Colli bron i 500 o swyddi yn Rhondda Cynon Taf

Mae 496 o swyddi wedi eu colli yng Nghymru wrth i gwmni UK Windows & Doors fynd i ddwylo gweinyddwyr.

Yn sgil cyfnod o ansicrwydd economaidd, chwyddiant prisiau a diffyg hyder defnyddwyr, roedd y broses adeiladu wedi arafu yn gyffredinol gyda llai o alw am gynnyrch gan UK Windows & Doors, meddai'r cwmni.

Bu sawl ymgais i achub y cwmni yn ystod y misoedd diwethaf gan gynnwys creu cynllun trawsnewid.

Mae'r cyhoeddiad yn "hynod bryderus" i'r gweithwyr a'u teuluoedd yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, sydd eisiau trafod gyda'r cwmni "ar frys".