Mis Hanes Pobl Dduon: 'Mae'n amser i ni gael ein dathlu yn y gymuned'
Ers 1987, mis Hydref yw Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU, pan mae llu o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal i godi ymwybyddiaeth am brofiadau a gorchestion unigolion sy'n perthyn i leiafrifoedd ethnig a'u cyfraniad i'w cymunedau.
Aeth Cymru ymhellach yn 2020 trwy lansio rhaglen sy'n ymestyn y gweithgaredd i flwyddyn gyfan.
Un o drefnwyr Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yw Natalie Jones, sy'n gweithio i S4C ac i Gyngor Hil Cymru.
Mae cynnal rhaglen ehangach o ddigwyddiadau addysgol a chelfyddydol, meddai, yn gyfle i gyflwyno "hanes Cymru i gyd, bob diwrnod o'r flwyddyn".
Ychwanegodd bod hi hefyd yn bryd i bobl o dras Affricanaidd ac Affro-Caribeaidd gael eu "dathlu yn y gymuned", ac nid dim ond eu "derbyn".