Papur Sain Ceredigion: 'Rhai wedi ymladd i gael e nôl'

Diflannodd gwasanaeth Papur Sain Ceredigion yn ystod y pandemig, ond am y tro cyntaf ers 2020, mae'r papur yn cael ei recordio eto.

Cafodd Papur Sain Ceredigion ei sefydlu yn 1970, gan arwain at greu rhagor o bapurau sain ar draws y DU.

Mae'r gwasanaeth yn darparu newyddion i bobl ddall a rhannol ddall, gyda gwirfoddolwyr yn edrych drwy bapurau newydd ac yn golygu erthyglau, cyn eu lleisio.

Mae Gordon Harries o Giliau Aeron wedi bod yn ddall ers 26 mlynedd, ond doedd pwysigrwydd y papur sain ddim yn amlwg iddo tan iddo gael y copi cyntaf ers Covid.