Prinder cyffur diabetes: 'Siaradwch gyda'ch meddyg'
Mae pryder am brinder cyffur sy'n cael ei ddefnyddio i reoli lefelau siwgr cleifion diabetes, gan fod rhai yn ei ddefnyddio er mwyn ceisio colli pwysau.
Mae'n bwysig i bobl sydd â diabetes math 2 barhau i siarad gyda'u meddyg teulu os ydyn nhw'n cael eu heffeithio gan y prinder, meddai Mathew Norman o elusen Diabetes UK.
Dywedodd y dylai pobl geisio peidio poeni am y sefyllfa, gan fod straen yn gallu gwaethygu lefelau siwgr y corff.