'Israel heb weld ymosodiad tebyg ers 50 mlynedd'
Mae Cymraes sy'n byw yn Israel wedi bod yn disgrifio'r sefyllfa yno yn sgil gwrthdaro gyda milwyr o Balestina dros y penwythnos.
Dechreuodd yr ymladd ddydd Sadwrn wrth i filoedd o rocedi gael eu tanio o Gaza tuag at Israel.
Roedd dynion arfog o grŵp milwrol Hamas hefyd wedi croesi'r ffin i mewn i Israel ac wedi ymosod ar dargedau - gan ladd dros 700 o bobl, meddai Israel.
Mae lluoedd Israel wedi taro'n ôl gyda rocedi, gan ladd bron 500 yn Gaza.
Mae'r rhan fwyaf Gaza bellach heb drydan ar ôl i Israel atal cyflenwadau, tra bod cyflenwadau bwyd a dŵr hefyd wedi cael eu heffeithio.
Dywedodd Nerys Thomas, sy'n byw yn Israel, nad yw'r wlad yn cofio ymosodiad o'r fath mewn 50 mlynedd.