Plant ar-lein: 'Bwlio a'r pwysau ar bobl ifanc yn bryder'

Mae plant mor ifanc â saith oed yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, yn ôl arolwg o blant ysgolion cynradd yng Nghymru.

Roedd ymatebion gan fwy na 32,000 o blant saith i 11 oed yn awgrymu bod bron i hanner (48%) yn defnyddio'r gwefannau neu apiau sawl gwaith yr wythnos neu bob dydd.

Dywedodd mwyafrif y disgyblion fod ganddyn nhw ffôn clyfar, gan gynnwys 43% o blant blwyddyn 3 - sy'n saith ac wyth oed.

Yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd mae rhai o'r canlyniadau'n destun pryder.

Beth ydy barn rhai o rieni yng Nghaernarfon ynglŷn â phryd y dylai plant gael ffonau, a hefyd am eu defnydd cynyddol o gyfryngau cymdeithasol?