Aflonyddu yn y GIG: 'Da ni'n gwybod bod hyn yn digwydd'

Mae methiant yn y system i gofnodi achosion o gam-drin rhywiol a threisio, yn ôl cyn-nyrsys a nyrsys presennol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod am achosion o "gydio mewn bronnau", "rhoi dwylo fyny ffrogiau" a "tharo penolau".

Yn ôl un nyrs sydd eisoes wedi gadael y gwasanaeth iechyd, mae cyn lleied o bobl yn cael eu herlyn am droseddau o'r fath yng Nghymru, fel ei bod yn teimlo fod y troseddau "bron wedi'u cyfreithloni".

Mae Cydffederasiwn GIG Cymru yn dweud fod amddiffyn cleifion a staff rhag unrhyw ffurf o gamymddwyn, ymosod, aflonyddu a cham-drin rhywiol, mewn unrhyw leoliad, yn cael ei gymryd o ddifrif.

Dywedodd Dr Olwen Williams, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, bod yn "rhaid i ni gael system sy'n gweithio i bawb" o ran adrodd digwyddiadau o'r fath.