20mya: Sut mae pobl yn ymdopi â gorfod gyrru'n arafach?
Mae hi'n fis union ers i derfyn cyflymder newydd ddod i rym yn y rhan helaeth o ffyrdd cyfyngedig Cymru.
Wrth dorri terfynau o 30mya i 20mya, dywedodd Llywodraeth Cymru mai lleihau niferoedd gwrthdrawiadau a marwolaethau oedd y nod.
Ond mae'r newid yn dal yn destun dadl - mae deiseb yn gwrthwynebu'r newid wedi denu dros 460,000 o lofnodion - y nifer uchaf erioed ers sefydlu pwyllgor deisebau Senedd Cymru.
Roedd y gweinidog a arweiniodd y newid, Lee Waters wedi awgrymu y byddai'n cymryd amser i bobl ddod i arfer â gyrru'n arafach mewn rhai ardaloedd.
Dywedodd hefyd, pan oroesodd bleidlais o ddiffyg hyder ynddo yn y Senedd, bod angen canolbwyntio bellach ar sut mae'r ddeddf yn cael ei gweithredu, a bod yn hyblyg os oes angen edrych eto ar sefyllfa ambell ffordd.
O holi pobl yn Sir Gâr, mae'n ymddangos y byddai hynny'n cael croeso wrth i yrwyr barhau i ddygymod â'r drefn newydd.