'Cyfle arbennig o dda' yn ffair lyfrau mwyaf y byd

Mae cyhoeddwyr o Gymru yn hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg yn ffair lyfrau fwyaf y byd yn y gobaith o ddenu prynwyr newydd ar draws y byd.

Mae Rachel Lloyd, pennaeth cyhoeddi Atebol, yn dweud bod y cyfle yn bwyisg er mwyn "hyrwyddo, creu cysylltiadau pwysig a pherthynas newydd".

Dywedodd bydd "pawb o'r diwydiant yno o ar draws y byd".

Mae 13 o gwmnïau o Gymru ymhlith y miloedd o gyhoeddwyr a phrynwyr o dros 100 o wahanol wledydd sydd yn Ffair Lyfrau Frankfurt rhwng 18 a 22 Hydref.