Storm Babet: Llifogydd Yr Wyddgrug yn 'dorcalonnus'
Mae nifer o ysgolion ar gau, sawl ffordd dan ddŵr a nifer o adeiladau wedi dioddef llifogydd wrth i Storm Babet gyrraedd Cymru.
Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym ar hyd siroedd y gogledd a'r canolbarth, ynghyd â rhannau o Sir Gâr a Sir Fynwy, ers hanner nos.
Bydd yn para trwy dydd a nos Wener tan 06:00 fore Sadwrn.
Mae'r mannau ble mae tai ac adeiladau wedi dioddef llifogydd yn cynnwys Yr Wyddgrug, Bwcle, Brychdyn, Dinbych a Llanelwy.
Mae canolfan yn cael ei sefydlu yn Eglwys Ebeneser Yr Wyddgrug ar gyfer unrhyw un sydd wedi eu heffeithio, gan gynnig lloches, paneidiau a chymorth i'r rhai na fydd yn gallu dychwelyd yn syth i'w cartrefi.
Dywedodd Lowri Mitton, sy'n aelod yno, fod y sefyllfa yn yr ardal yn "dorcalonnus", ac yn waeth nag unrhyw beth sydd wedi bod o'r blaen.