Caerdydd: '200% yn fwy o fyfyrwyr yn gofyn am gymorth'
Mae awgrym bod rhent myfyrwyr wedi codi cymaint yn y ddwy flynedd ddiwethaf nes ei fod yn llyncu bron pob ceiniog o fenthyciadau cynnal a chadw nifer.
Yn ôl adroddiad newydd, mae cynnydd cyfartalog o bron i 15% wedi bod yn y lefelau rhent yn y DU dros y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf.
Dywed adroddiad Unipol, sef y corff sy'n gyfrifol am lety myfyrwyr a'r Sefydliad Polisi Addysg Uwch, bod y sefyllfa ar ei waethaf yng Nglasgow lle mae cynnydd wedi bod o dros 20%.
11.1% oedd y cynnydd yng Nghaerdydd, sy'n golygu bod y rhent blynyddol cyfartalog wedi cyrraedd ychydig dros £6,600.
Mae hyn yn arwain at bryderon fod rhai myfyrwyr yn dyblu i fyny yn anghyfreithlon mewn ystafelloedd neu yn gorfod gweithio oriau hirach i ddal dau ben llinyn ynghyd.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Deio Owen o Undeb Prifysgol Caerdydd bod cynnydd o 200% yn nifer y myfyrwyr sy'n chwilio am gymorth o ganlyniad i bwysau rhent.
"Does 'na'm digon o dai yma yng Nghaerdydd," meddai.
"Dydy gwaith llawn amser ddim yn rhywbeth newydd mae myfyrwyr yn ei wneud, ar y cyd hefo cael gradd.
"Ond be 'da ni'n weld ydy cynnydd yn yr oriau mae pobl yn gweithio, sy'n cael effaith ar eu profiad a'u gallu academaidd nhw."