Datblygu ail ran canolfan S4C Yr Egin 'dal ar y bwrdd'

Mae cynlluniau i ddatblygu ail ran canolfan S4C Yr Egin, "dal ar y bwrdd" yn ôl Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Mewn digwyddiad i ddathlu pum mlynedd ers agoriad yr hwb yn Sir Gâr, fe ddywedodd Dylan Jones fod 'na "gynlluniau ar droed".

Mae'r Egin yn bencadlys i S4C, ond mae 16 o gwmnïau creadigol eraill wedi sefydlu eu hunain yno hefyd bellach, ar safle "100% yn llawn".

Ein gohebydd Elen Davies aeth yno am sgwrs gyda Mr Jones, Ysgrifennydd Cymru David TC Davies a chyfarwyddwr y ganolfan, Carys Ifan.