Bwcedi glas Calan Gaeaf i atal 'stigma' awtistiaeth

Bydd bachgen chwech oed yn defnyddio bwced las wrth fynd o dŷ i dŷ y Calan Gaeaf hwn er mwyn codi ymwybyddiaeth bod ganddo awtistiaeth.

Nos Fawrth bydd miloedd o blant a theuluoedd yn cnocio drysau ar noson Calan Gaeaf, ond mae'n gallu bod yn gyfnod heriol i blant niwro-amrywiol.

Mae Noa o Bwllheli yn awtistig ac yn ddilafar, ac yn ôl ei fam Sophie Underwood-Jones mae rhai pobl yn credu ei fod yn "ddigywilydd".

Dywedodd hi fod Noa "wrth ei fodd" gyda Chalan Gaeaf, a bu'n egluro i BBC Cymru beth yw'r syniad tu ôl i'r bwcedi glas.