Cyn-AS 'methu cysgu' oherwydd y sefyllfa yn Gaza

Mewn gyda Newyddion S4C, dywedodd Bethan Sayed, fu'n aelod o Blaid Cymru yn Senedd Cymru, ei bod hi "methu cysgu" oherwydd y gwrthdaro presennol yn y Dwyrain Canol.

Roedd Ms Sayed ymhlith cannoedd o bobl wnaeth gymryd rhan mewn protest yng Nghaerdydd oedd yn galw am gadoediad brys yn Gaza.

"Dwi'n emosiynol iawn achos ma' plant yn marw... ti'n teimlo fel ti ddim yn gallu gwneud unrhywbeth," meddai Ms Sayed.

Mae Israel wedi bod yn cynnal cyrchoedd awyr dwys mewn ymateb i'r ymosodiadau gan Hamas ar 7 Hydref, pan gafodd 1,400 o bobl eu lladd.

Ers hynny mae'r Weinyddiaeth Iechyd yn Gaza yn dweud bod dros 7,500 o Balesteiniaid wedi cael eu lladd.

Mae aelodau o'r pedair plaid yn Senedd Cymru wedi galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza.