Tirlithriad: 'Sa i 'di gweld shwd gyment o ddŵr'

Mae Storm Ciarán ar ei ffordd i'r DU dros Fôr Iwerydd ac mae disgwyl tywydd garw yn y rhan fwyaf o siroedd Cymru yn y dyddiau nesaf.

O gyfeiriad y de-orllewin y bydd y storm yn cyrraedd, ond mae nifer o drigolion yn Sir Gaerfyrddin eisoes yn wynebu trafferthion yn dilyn storm ddiwethaf y tymor newydd.

Bu'n rhaid cau rhan o ffordd rhwng Cynwyl Elfed a Threfechan sydd wedi cael ei dinistrio yn dilyn tirlithriad.

Ac mae rhai o drigolion pentref Bronwydd yn dweud fod dŵr wedi llifo i gartrefi yn yr ardal honno oherwydd y cawodydd trwm diweddar.