Archesgob Cymru: Cyfrifoldeb gan arweinwyr crefydd yn Gaza

Yn ôl Archesgob Cymru, y Gwir Barchedicaf Andrew John, mae angen i unrhyw ddatrysiad yn y Dwyrain Canol rhwng Israel a Gaza gynnwys arweinwyr crefyddol o sawl cred.

Roedd yn ymateb i'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Israel ers i luoedd Hamas ymosod ar 7 Hydref gan ladd 1,400 o bobl a chymryd bron i 300 o wystlon.

Ers hynny mae lluoedd Israel wedi ymateb ac ymosod ar Gaza, gyda'r adroddiadau diweddaraf yn dweud bod dros 8,000 o bobl wedi eu lladd yn Gaza.

Mae'r ymosodiadau yn Israel wedi cael effaith ar Esgobion yr Eglwys yng Nghymru ac maen nhw wedi rhyddhau datganiad ar y cyd.

Yn y datganiad maen nhw yn sôn eu bod wedi "eu herio gan yr erchylltra a'r trais a welwyd yn Israel a Gaza yn y mis diwethaf".

"Bydd dioddefaint gwystlon a'r trawma a achoswyd i blant a theuluoedd cyffredin eisoes yn parhau am flynyddoedd tu hwnt i'r gwrthdaro hwn."