Branwen: 'Braf gweld awch i weld gwaith ar y raddfa yma'

Mae'r cynhyrchiad theatr iaith Gymraeg mwyaf erioed i gael ei lwyfannu yng Nghanolfan y Mileniwm yn agor nos Fercher.

Mae'r sioe gerdd Branwen: Dadeni yn gyd-gynhyrchiad rhwng Cwmni'r Frân Wen a Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Bydd y sioe - sy'n ailddychmygu un o'n chwedlau mwyaf adnabyddus - hefyd yn cael ei pherfformio yn Aberystwyth a Bangor.

Yn ôl Elgan Rhys, un o awduron y sioe, mae hi'n gyfnod "cyffrous ac arswydus", ond mae'n "hyderus iawn y bydd pobl yn cael profiad bythgofiadwy".

Mae modd darllen mwy am hanes y sioe yma.