Llysoedd: Sicrhau cyfieithwyr Cymraeg yn 'fwyfwy anodd'

Mae angen mwy o gyfieithwyr i ymdopi a'r galw cynyddol am gynnal achosion llys drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyna neges Cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn sgil cynnydd o 46% yn y galw am gyfieithwyr o'r Gymraeg i'r Saesneg rhwng Hydref 2023 a'r un adeg y llynedd.

Yn ôl Manon Cadwaladr, sydd hefyd yn gyfarwyddwr ar gwmni cyfieithu Cymen yng Nghaernarfon, mae'r gymdeithas yn annog mwy o bobl i fynd ar gyrsiau cyfieithu ar y pryd er mwyn ateb y galw.

Gwnaeth arolwg gan raglen File on Four BBC Radio 4 ddarganfod bod 10% o'r holl gyfieithwyr gwasanaeth cyhoeddus yn debygol o roi'r gorau iddi dros y 12 mis nesaf oherwydd amodau gwaith.

Mae ffigyrau hefyd yn dangos fod 82 o geisiadau wedi'u gwneud am gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg mewn llysoedd a thribiwnlysoedd rhwng Ebrill a Hydref 2023, o'i gymharu ag ond 56 cais rhwng Ebrill a Hydref 2022.

Dywedodd Hywel Hughes, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg y Gwasanaeth Llysoedd & Thribiwnlysoedd fod sicrhau cyfieithwyr ar y pryd "yn mynd yn fwyfwy anodd."

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fe ddywedodd Manon Cadwaladr: "Yndi mae pethau'n edrych yn ddyrys ar draws y DU ond yr hyn sydd o ddiddordeb i ni ydi'r sefyllfa yng Nghymru a'r Gymraeg.

"Mae hi wastad yn werth ail adrodd ac atgoffa pobl fod gan bawb yr hawl i gyflwyno eu tystiolaeth yn Gymraeg mewn unrhyw achos llys, boed yn llys ynadon, llys sirol, llys y goron neu dribiwnlys.

"Mae'n ffantastig fod rhagor o bobl yn ymwybodol o'r hawl yna ac yn arfer eu hawl o ddefnyddio'r Gymraeg mewn achosion llys.

"Mae'n holl bwysig fod ni fel cyfieithwyr yno i'w galluogi nhw i wneud hynny achos pan mae rhywun mewn achos llys mae rhywun yn gallu teimlo dan straen. Felly mae'r gallu i gyflwyno tystiolaeth yn yr iaith maen nhw fwyaf cyfforddus yn ofnadwy o bwysig."

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM: "Mae cyfarch pobl yn eu hiaith eu hunain yn hanfodol i sicrhau ein bod yn gallu bodloni disgwyliadau defnyddwyr ein gwasanaethau sy'n siarad Cymraeg.

"Rydym yn monitro gwasanaethau cyfieithwyr a chyfieithwyr yn ofalus i sicrhau eu bod yn gyson effeithiol ac yn hygyrch i bawb."